Cymen

Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg a Saesneg

Y Cwmni


Mae cwmni cyfieithu Cymen wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf ers dros 30 mlynedd ac rydyn ni’n un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar Cymru. Rydyn ni wedi ennill ein henw da oherwydd ansawdd a phrydlondeb ein gwaith. Mae gennym ni dîm ymroddedig o gyfieithwyr sydd ar dân eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.

Os hoffech chi ymuno â’r tîm, cysylltwch â ni.

Gwasanaethau Cyfieithu


Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd i bawb – o elusennau lleol i gorfforaethau mawr.

Cyfieithu Testun
Mae gennym ni dîm o gyfieithwyr dawnus sy’n sicrhau ein bod yn darparu cyfieithiadau o’r radd flaenaf, ac rydyn ni’n buddsoddi’n gyson yn y meddalwedd diweddaraf i hwyluso’r broses gyfieithu. Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau cysondeb o ran arddull a thermau, yn unol â gofynion ein cleientiaid.

Mae ein holl staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd SDL Trados Studio ac rydym yn hyderus wrth weithio mewn rhaglenni cof cyfieithu eraill yn ogystal â rhyngwynebau CMS wrth gyfieithu gwefannau. SDL Trados Studio

Cyfieithu ar y Pryd
Gallwn ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt ac mae gennym offer i ymdopi â chynadleddau mawr, yn ogystal â chyfieithwyr ar y pryd profiadol a chymwys sy’n sicrhau bod cyfarfodydd dwyieithog yn gallu digwydd yn rhwydd. Mae gan Cymen y sgiliau ieithyddol a thechnegol i ddiwallu eich holl anghenion cyfieithu ar y pryd – siop un stop ar gyfer eich digwyddiad dwyieithog!

Mae gennym y setiau offer cyfieithu digidol diweddaraf gyda dros 700 o glustffonau di-wifr er mwyn teilwra ein gwasanaeth cyfieithu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau cyhoeddus, cyfarfodydd ymgynghori, cynadleddau, cyfweliadau a chyfarfodydd bwrdd. Gallwn ddarparu gwasanaeth CAP ar-lein hefyd a rhoi cyngor ar gynnal cyfarfodydd dwyieithog ar wahanol blatfformau.

Mae gennym rwydwaith o gyfieithwyr ar y pryd medrus ym mhob cwr o Gymru at eich gwasanaeth, o Gaerdydd i Gaergybi. Y clod mwyaf y gellir ei roi i'r tîm hwn o gyfieithwyr profiadol yw bod pobl yn anghofio bod cyfieithwyr ar y pryd mewn cyfarfod – y nod yw sicrhau bod y di-Gymraeg mewn cyfarfodydd dwyieithog yn clywed popeth yr un pryd â'r siaradwyr Cymraeg. Cyfieithu ar y pryd yng ngwir ystyr y gair!

Mae ein cyfieithwyr ar y pryd yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru sy’n golygu eu bod wedi llwyddo mewn prawf cyfieithu dan amodau arholiad llym. Rydym hefyd wedi ein cynnwys ar restr cyfieithwyr cymeradwy Gwasanaeth Llysoedd Ei Fawrhydi, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, ac rydyn ni’n falch o ddweud mai ni yw cwmni cyfieithu swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd bellach.

Staff


Gall ein tîm o gyfieithwyr profiadol ddelio â swmp mawr o waith cyfieithu drwy gydol y flwyddyn ac rydym bob amser ar gael yn ystod oriau swyddfa. Byddwn yn trafod amserlenni â chwsmeriaid ac wnawn ni ddim addo dim byd na allwn ei gyflawni.

Os oes gennych chi unrhyw anghenion cyfieithu neu os hoffech chi gael cyngor ar faterion ieithyddol, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.

Sicrhau Ansawdd


Mae Cymen yn gweithio i safonau rheoli ansawdd rhyngwladol. Sylweddolwn mai cywirdeb o ran iaith a chynnwys yw prif hanfod cyfieithu, a dyma sy'n ein gwneud yn dîm cyfieithu mor uchel ein parch. Mae hyn yn profi bod gan Cymen systemau a gweithdrefnau ansawdd ysgrifenedig sy’n bodloni safonau a disgwyliadau byd-eang.

Mae gan Cymen system rheolaeth amgylcheddol ar waith ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i fod yn gwmni gwyrdd ac i leihau ein hôl troed carbon.

Darllenwch ein polisi.

Seren

Hysbysiad Preifatrwydd

Yn Cymen rydyn ni’n cymryd eich preifatrwydd o ddifri a byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i weinyddu eich cyfrif a darparu’r cynnyrch a’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt gennym. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â neb arall.

Dim ond swyddogion sydd ag awdurdod sy’n gallu cael gafael ar yr wybodaeth a bydd yn cael ei chadw’n ddiogel mewn amgylchedd sy’n cael ei warchod gan gyfrinair. Byddwn yn cadw rhywfaint o’ch gwybodaeth ar ffeiliau papur ac mae’r rhain yn cael eu cadw mewn offer swyddfa diogel a dim ond swyddogion sydd ag awdurdod sy’n gallu cael gafael arnynt.

Mae’n rhaid i ni gadw rhywfaint o’ch gwybodaeth am gyfnodau hir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth am ddim mwy nag sy’n angenrheidiol er mwyn diwallu’r dibenion dros ei chasglu.

Cymen

Cysylltu


cymen@cymen.co.uk

01286 674409

@Cymen_cyfieithu

Cymen
Pen Deitsh
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2AY

Anfonwch unrhyw waith neu ymholiadau at

cymen@cymen.co.uk


hawlfraint 2019 Cymen
gwefan gan WiSS